top of page

Cymraeg

 

Cafodd Dafydd Bullock ei eni yn 1953 yn Llanberis, Gwynedd. Mae'n gyfansoddwr, arweinydd, trefnydd ac athro a raddiodd mewn Cerddoriaeth (Prifysgol Manceinion a'r Royal Northern College of Music, - Maestro George Hadjinikos - 1971 - 1976) cyn dilyn Gradd Feistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (Prifysgol Sussex, 1981 - 1983). Yn 1993 a 1994 enillodd wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac yn 1995 cafodd ei urddo â'r Wisg Wen gan Orsedd y Beirdd. Fe'i gwnaed yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA) yn 2005.

 

Ymhlith ei gyfansoddiadau y mae 37 symffoni, 19 cerdd symffonig, 2 opera, 2 Offeren dros y Meirw, 2 osodiad ar gyfer Offeren, Missa Brevis, oratorio, 36 pedwarawd llinynnol a cherddoriaeth siambr arall a llawer o ganeuon a darnau ar gyfer y piano. Cyfansoddodd y sgôr ar gyfer 2 ffilm.

 

Cyhoeddwyd gweithiau ganddo yng ngwledydd Prydain gan Gwmni Gwynn, Curiad a Bardic Edition, yng Ngwlad Belg gan Alain Van Kerckhoven Editeur, yn Lwcsembwrg gan Luxembourg Music Publishers, Music Enterprise a Double You a chan Lyon a Healy West yn Utah a Crane Music yng Nghaliffornia yn yr Unol Daleithiau. Hyd yma y mae wedi gwneud 41 o gryno-ddisgiau, gyda SAIN (Cymru), AVK (Gwlad Belg) a LakeSound. Cafodd ei gerddoriaeth ei pherfformio a'i darlledu mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Japan, China, Brasil a Cholombia yn ogystal â llawer yn Ewrop.

 

Mae gan Dafydd Bullock berthynas arbennig gyda Phrâg: perfformiwyd ei Ail Symffoni am y tro cyntaf erioed gan Musici de Praga yn ystod Gwyl Wanwyn Prâg 1996 a'r Drydedd Symffoni, eto ym Mhrâg, ar Ddydd Gwyl Sain Folant, 1997. Fe gafodd y trydydd a'r pedwerydd Pedwarawd Llinynnol hefyd eu recordio ym Mhrâg (Pedwarawd Becher) yn ogystal â'r gweithiau cyflawn ar gyfer Sielo a Phiano (Jindrich Ptacek) a phum Thriawd. Yn fwy diweddar, bu Virtuosi di Basso, deuddeg sielo unigol Cerddorfa Ffilharmonig Tsiecoslofacia yn recordio a pherfformio cerddoriaeth a ysgrifennwyd yn arbennig ar eu cyfer.

bottom of page